Ein stori hyd yn hyn

Ym Medi 2003, cyflwynwyd y syniad y tu ôl i Trysordy ger bron Symud Ymlaen (y sefydliad datblygu cymunedau a oedd yn awyddus i ymchwilio a datblygu mentrau amgylcheddol lleol yn yr ardal).Mae llond llaw o bobl sy’n byw yn Drefach Felindre a’r cyffiniau wedi dod ynghyd i gynnal breuddwyd a’i gwireddu. Unwyd yr unigolion hyn gan eu bod i gyd yn poeni am yr amgylchedd, yn angerddol am fod yn greadigol a chwarae ac yn grediniol y gellir troi gwastraff yn gyfoeth.

CERRIG MILLTIR  

Rhag 2003…. Astudiaeth dichonoldeb yn dechrau

Mai 2004……. Astudiaeth dichonoldeb yn cael ei chwblhau. Ffurfio Grwp Llywio. Dechrau chwilio am Leoliad

Ebrill 2005……..Dechreuodd gweithiwr datblygu rhan amser ar ei swydd.Dechreuodd ymchwil pellach

Mehifin 2005.…Sefydlu Bwrdd o Gyfarwyddwyr Cysgodol

Gorffennaf 2005……Cynllun busnes cyntaf.Wedi dechrau cysylltiadau â Rhaglen Ddeillio Cymru ac Ysgol Addysg Blynyddoedd Cynnar Coleg y Drindod, Caerfyrddin

Medi 2005…….Ymweliad cyntaf â’n lleoliad arfaethedig, 4000 troedfedd sgwâr ar Fferm Aalton.

Tach 2005……Creu Cwmni Cymunedol Trysordy

Mawrth 2006…..Cael ein derbyn ar Raglen Ddeillio Cymru. Ysgoloriaeth Cronfa Archwilio Gwybodaeth.Dechrau trafodaethau les.

Ebrill 2006……Datblygu cynllun busnes a pholisïau

Gorff 2006…….Dechrau cyswllt gyda Sefydliad Groundwork. Dechrau cyswllt gyda’r Gwasanaeth Prawf

Awst 2006……..Gwefan Trysordy’n dod yn fyw.

Gorff 2006…….Cael Caniatâd Cynllunio ar gyfer trawsnewid adeilad

Tach 2006……..Groundwork yn talu costau rheolaeth prosiect adeiladu

Rhag 2006………Cytuno’r Cyllid Cyfalaf ar gyfer trawsnewid yr ad eilad oddi wrth Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol

Ion 2007……..Gwaith adeiladu’n dechrau. Gwobr Grant Annherfynol gan Ymddiriedolaeth Gwobrau’r Milflwydd.  Benthyciad o Fentrau Cymunedol Cymru ar gyfer llif arian.

Chwef 2007……Amgylchedd Cymru yn cytuno i ariannu rhan o gost Swyddog Prosiect. Y prosiect yn cael ei gefnogi gan dros 30 o sefydliadau celf/plant/cymunedol/academaidd/busnes acamgylcheddol rhanbarthol.

Mawrth 2007…….Statws Cariwr Gwastraff wedi ei eithrio yn cael ei roi Partneriaeth  y Plant yn ariannu peth hyfforddiant, dodrefn a chyfarpar.Partneriaeth y Plant yn gofyn i Trysordy gadw Llyfrgell Deganau i’r Sir. Cyfnod o adeiladu sylweddol yn dod i ben. Groundwork yn ariannu costau cyfreithiol datblygu’r Les.   

Ebrill 2007…….Clybiau Plant Cymru yn dechrau sesiynau Diploma mewn Gwaith Chwarae wythnosol yn yr ystafell hyfforddi. Mai 2007………Swyddog Prosiect sy’n rhannu swydd yn dechrau. Gwasanaeth Prawf yn dechrau Sesiynau Hyfforddi Galwedigaethol ar y safle. Dechrau cael gafael ar ddeunyddiau scrap. Prosiect yn caelei ariannu gan CAVO. Groundwork yn ariannu ardal i arddangos y deunyddiau scrap. Cegin i gael ei hadeiladu. Ariannwyd gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

MEHIFIN 2007………………..  

Trysordy’n dechrau cropian

Rwy’n falch iawn i ddweud wrthych fod y cyfnod cyntaf o drawsnewid ysgubor 4000 troedfedd sgwâr, nad oedd bellach yn cael ei defnyddio, ar gyrion Caerfyrddin i Ganolfan Ailddefnyddio Adnoddau Trysordy wedi ei gwblhau! Bu hi’n daith hir a chaled…….tair blynedd a hanner a dweud y gwir! Byddwn yn dechrau ar y gwaith o gynnig deunyddiau Chwarae a deunyddiau at ddefnydd creadigol yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae gennym hefyd wasanaethau sydd eisoes mewn lle………yn arbennig, rydym wedi dechrau llogi ystafell hyfforddi fawr a’r ystafell gyfarfod safonol.
Wedi’i lleoli yng nghanol y wlad mewn man tawel gyda ffordd ddeuol yr A40 ond 5 munud i ffwrdd a maes parcio y tu allan ar gyfer 20 o geir……gobeithiwn y bydd yr ystafelloedd yn boblogaidd gydag unigolion a gyda phob math o fudiadau.  Os ydych am wybod mwy am yr ystafelloedd, cliciwch ar “Beth sydd yma i chi yn Trysordy” ac “Aelodaeth, Prisiau a Gwasanaethau” ar yr ochr chwith.
 

AWST 2007…………….

Dyddiad i Gychwyn y Gwasanaethau Sgrap

Bydd Trysordy’n dechrau cynnig ystod o ddeunyddiau gwastraff glân a diogel (rhai y bydd busnesau’n eu taflu) am bris rhad iawn o ddiwrnod cyntaf hanner tymor yr hydref ymlaen……Dydd Sadwrn  Hydref 27ain. Cliciwch ar “Oriau Agor” i gael mwy o fanylion. 
 

Y Gegin Newydd

Mae’r gwaith adeiladu i fod cychwyn ar y Gegin newydd (a fydd yn bennaf at ddefnydd hyfforddi galwedigaethol) ym mis Awst 2007
 

Hwb newydd i’n gwasanaethau hyfforddi galwedigaethol

Mae Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr wedi cytuno yn garedig iawn i roi £1000 i ni i brynu offer a fydd yn gwella ac yn gymorth i’n rhaglenni hyfforddi galwedigaethol. 
 

Gweithdai Ailgylchu Creadigol ar Ddydd Sadwrn

Bydd y cyntaf o’r gweithdai misol (ar ddydd Sadwrn) yn cychwyn ym mis Medi 2007; byddant wedi’u seilio ar ddefnyddio helyg gyda deunyddiau gwastraff i greu addurniadau tymhorol a phethau ymarferol……..bydd amrywiaeth i’w gynnig – addurniadau Nadolig, calonnau San Ffolant, Basgedi’r Pasg, Cynlluniau i’r Ardd a Cherfweithiau. Cliciwch ar “Digwyddiadau a Chyrsiau” i gael rhagor o wybodaeth.
 

Trysordy’n cymryd rhan yng Ngwyliau’r Haf

Rydym wedi bod o gwmpas Gwyliau Sir Gâr yng Ngorffennaf, yn trefnu ardaloedd chwarae a gweithgareddau creadigol trwy ddefnyddio deunyddiau gwastraff……bu’r un cyntaf yng Ngŵyl Calon y Ddraig yng Nghastell Newydd Emlyn. Yno gwnaethom ddadorchuddio draig newydd a gafodd ei hadeiladu gennym ni (wedi’i chomisiynau gan drefnwyr yr ŵyl er mwyn diogelu wy’r Ddraig a oedd yn deor ar y diwrnod olaf)… ac yna’n fwy diweddar yng Ngŵyl y Cenhedloedd Bychain ger Llanymddyfri. Bydd y lluniau’n ymddangos cyn hir o dan adran y Digwyddiadau a’r Cyrsiau.  Os na lwyddoch chi i’n gweld ni yng Ngorffennaf, dewch draw i’n gweld yn yr Ŵyl Eco ar Fferm Rhyhowell ger Boncath, Sir Benfro ar 8 Medi.