Aelodaeth, Prisiau a Gwasanaethau
AELODAETH
Nid oes unrhyw dâl aelodaeth bflynyddol i’w dalu o flaen llaw cyn cael defnyddio Trysordy!
Yn hytrach, rydym wedi trefnu mai talu aelodaeth ar delerau ‘tâl wrth ddefnyddio’ fydd pobl yn ei wneud. Nid ydym am i arian fod yn rhwystr i unrhyw un sy’n ein defnyddio ac rydym am eich annog i’n defnyddio mor aml ag y mynnoch.
Felly….bob tro yr ydych yn ymweld â ni, byddwch yn talu £1 er mwyn defnyddio ein gwasanaethau am y diwrnod penodol hynny. Syml. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen aelodaeth fer y tro cyntaf byddwch yn ymweld â ni, talu £1 ac fe fyddwn yn rhoi eich cerdyn aelodaeth i chi. Fe fyddwch wedyn yn aelod o Trysordy…..ac nid oes angen adnewyddu’r aelodaeth. Rydych yn aelod Gydol Oes.
Mae aelodaeth yn eich galluogi i ddefnyddio:
- Ystod eang o ddeunyddiau gwastraff glân a diogel.
-
Llogi offer am bris rhad
-
Llogi Ystafelloedd Hyfforddi Ac Ystafelloedd Cyfarfod
-
Taflenni Gwybodaeth a Chyngor ar chwarae ynghyd â ffyrdd cost effeithiol o leihau gwastraff drwy ostwng, ailddefnyddio, adnewyddu, ailgynhyrchu ac ailgylchu
- Pris arferol sesiynau hyfforddi mewn gweithdai yw £125 bob gr?p am hanner diwrnod. Bydd sesiynau yn cael eu prisio yn ddibynnol ar y nifer sydd mewn gr?p, hyd y sesiwn, y deunyddiau sydd eu hangen, lleoliad a phe bai angen hwylusydd neu beidio.
- E-byst rheolaidd sy’n cynnwys newyddion am weithgareddau, digwyddiadau ac awgrymiadau ymarferol

Re-create Cardiff www.re-create.co.uk
Prisiau Ystafelloedd Cyfarfod Arferol
CYFRADDAU RHAD £15 am hanner diwrnod, £25 am ddiwrnod cyfan
MUDIADAU GWIRFODDOL £20 am hanner diwrnod, £30 am ddiwrnod cyfan
MUDIADAU ERAILL £25 am hanner diwrnod, £35 am ddiwrnod cyfan
Prisiau Ystafelloedd Cyfarfod Mawr
CYFRADDAU RHAD £30 am hanner diwrnod, £50 am ddiwrnod cyfan
MUDIADAU GWIRFODDOL £40 am hanner diwrnod, £60 am ddiwrnod cyfan MUDIADAU ERAILL £45 am hanner diwrnod, £70 am ddiwrnod cyfan
Defnyddio’r Taflunydd ar gyfer gwneud cyflwyniadau wedi’u rheoli o bell (dewch â storfa cof eich hun, dyna’i gyd) £25
Defnyddio’r chwaraeydd DVD/Fideo £10