Beth sydd yma i chi yn Trysordy
Mae’r Ganolfan yn addas ar gyfer yr Anabl ac mae ganddi doiledau wedi’u haddasu’n briodol.
Byddwn yn cadw deunyddiau gwastraff megis potiau, blychau, bocsys, tabyrddau, tuniau, paent, papur, cerdyn, tiwbiau, bagiau, hambyrddau, pibellau, riliau, sachau, polion, estyll, cesys, cloriau, pren, brediau, elastig, ffwr ffug, hesian, les, lledr, rhwyd, polyester, PVC, rhuban, melfed, finyl, lliain hwyliau, sidan, cysgodlenni, carped, conau, corc, rwber sbwng, leino, teils, ffoil, botymau, rholeni, rhosedi, rhaff, hen offer, olwynion.

© Sparc Dartington www.scrapstore.org
Bydd yr Offer i’w llogi yn cynnwys Offerynnau Cerdd, Pypedau, Llyfrau Llyfrgell & Chylchgronau
Llogi Ystafelloedd Hyfforddi Ac Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gan yr ystafell hyfforddi fawr:
• Fwrdd Gwyn, Bwrdd Du a Siart Troi
• Offer i ddangos ffilmiau DVD a fideo
• Taflunydd ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint
(sydd yn cysylltu â gliniadur neu storfa cof)
• Y gallu i daflunio camera fideo
• Te/Coffi, Sinc, Oergell a Microdon
ac mae’n ddigon hawdd trefnu brechdanau a bwffe oer hefyd.

Gallwn ddal 24 o gwmpas bwrdd neu 36 ar ffurf theatr. Mae modd plygu’r byrddau i gadw’n ddigon cyflym er mwyn cynnig gofod hyblyg ar gyfer gwahanol weithgareddau.

© Gloucester Resource Centre www.grcltd.org
Bydd sefyllfaoedd dysgu yn cynnwys:
- Hyfforddi pobl i ddefnyddio deunyddiau gwastraff wrth chwarae a bod yn greadigol
- Gweithdai ymarferol i greu eitemau penodol allan o ddeunyddiau sgrap e.e. cerfwaith allan o sbwriel/deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu, dodrefn, masgiau, dreigiau, offerynnau;
- Gweithdai i ddysgu sgiliau creadigol newydd, e.e. gwaith coed, cerfio pren, brithwaith, gwydr lliw.
- Gweithdai sydd wedi’u datblygu ar gyfer rhai sydd ag anawsterau dysgu a chorfforol / dan anfantais neu ar gyfer grwpiau anghenion arbennig eraill.
- Sut i drefnu digwyddiadau cymunedol;
- Sefydlu busnesau bach sy’n creu cynnyrch o ddeunyddiau sgrap;
- Addysg amgylcheddol i leihau, ailddefnyddio, adnewyddu, ailgynhyrchu ac ailgylchu gwastraff.